Sut i gynyddu cynnwys seleniwm gwair

Mae gan anifeiliaid pori ofynion gwahanol am ficrofaethynnau na'r rheini sydd eu hangen ar gyfer tyfiant gwair. Mae seleniwm yn faethyn hanfodol i anifeiliaid ond nid ar gyfer planhigion felly mae'n bwysig bod digon ohono yn bresennol yn y gwair i ddiwallu anghenion yr anifeiliaid.

Mae lefelau seleniwm mewn gwair yn aml yn rhy isel

Mae astudiaethau blaenorol wedi dangos bod tua 90% o samplau naill ai'n isel iawn neu'n isel o ran statws eu seleniwm. Yn fwyaf diweddar yn 2014 yng nghystadleuaeth UK Grass Prix roedd yr holl samplau yn is na'r canllaw 0.1 ppm, gyda'r cyfartaledd dan 0.04 ppm. Byddai'n annhebygol bod gwartheg a fyddai'n bwydo ar hwn yn gallu cadw'r cynnwys seleniwm eu gwaed yn uwch na'r canllaw nodweddiadol o 0.1 mg/g gwaed. Felly mae angen atchwanegiad yn y diet i gynnal iechyd yr anifeiliaid.

Cynnwys seleniwm gwair a gofnodwyd mewn samplau o ffermydd Grass Prix Yara

Cynnwys seleniwm gwair a gofnodwyd mewn samplau o ffermydd Grass Prix Yara

Mae planhigion yn cymryd seleniwm ar ffurf ionau selenad (SeO42-) neu selenid (SeO32-). Selenad yw'r ffurf a gymerir i mewn hawsaf ac felly mae ei gynnwys mewn gwrtaith yn ei wneud yn ddull delfrydol ar gyfer cyfnerthu gwair er mwyn cyrraedd y gofynion dyddiol o ran cymeriant. Ar ôl ei gymryd i mewn caiff ei ymgorffori i'r asidau amino a phroteinau. Yn y ffurfiau hyn mae'r seleniwm ar gael i'r da byw. Mae hon yn ffordd effeithlon iawn o drosglwyddo seleniwm i waed yr anifail.

Mae defnyddio gwrteithiau cyfnerthedig yn cynyddu lefelau seleniwm mewn porfa

Cymharodd treial fferm a gynhaliwyd yn Kildare, Iwerddon, lefelau seleniwm mewn gwair oedd wedi'i drin â gwrtaith NPK safonol (YaraMila Supergrass) gyda gwrtaith NPK a oedd yn cynnwys seleniwm (YaraMila Stock Booster). Cynyddodd lefelau'r seleniwm yn y triniaethau YaraMila Stock Booster yn y silwair toriad cyntaf gan 275% a'r ail doriad gan 450%.

Cynnydd yng nghynnwys seleniwm mewn gwair yn dilyn triniaeth gyda gwrtaith sy'n cynnwys Se Stock Booster Kildare

Cynnydd yng nghynnwys seleniwm mewn gwair yn dilyn triniaeth gyda gwrtaith sy'n cynnwys Se Stock Booster Kildare

Cymharodd treial arddangos a gynhaliwyd yn nigwyddiad Grass Tec ger Elgin yn yr Alban, lefelau seleniwm mewn gwair oedd wedi'i drin â gwrtaith NPK safonol (YaraMila Sulphur Cut) gyda gwrtaith NPK a oedd yn cynnwys seleniwm (YaraMila Stock Booster) neu wrtaith nitrogen syth yn cynnwys seleniwm (YaraBela Nutri Booster). Cynyddodd lefelau seleniwm yn y triniaethau YaraMila Stock Booster a YaraBela Nutri Booster yn sylweddol, ar gyfartaledd gan dros 500% a 900% yn yr un drefn.

Cynnwys seleniwm mewn gwair yn dilyn triniaeth gyda gwrtaith yn cynnwys Se dros ystod o wahanol gymysgeddau Stock Booster

Cynnwys seleniwm mewn gwair yn dilyn triniaeth gyda gwrtaith yn cynnwys Se dros ystod o wahanol gymysgeddau Stock Booster

Cymharodd treial fferm a gynhaliwyd ar Ystâd Glenbervie yn yr Alban lefelau seleniwm mewn gwair oedd wedi'i drin â gwrtaith NPK safonol (YaraMila Supergrass) gyda gwrtaith NPK a oedd yn cynnwys seleniwm (YaraMila Stock Booster). Cynyddodd y lefelau seleniwm yn y triniaethau YaraMila Stock Booster gan dros 900%.

Cynnydd yng nghynnwys seleniwm mewn gwair yn dilyn triniaeth gyda gwrtaith sy'n cynnwys Se Stock Booster Glenbervie

Cynnydd yng nghynnwys seleniwm mewn gwair yn dilyn triniaeth gyda gwrtaith sy'n cynnwys Se Stock Booster Glenbervie

Fe wnaeth yr astudiaeth ganlynol o Seland Newydd edrych ar y lefelau seleniwm mewn gwair yn dilyn triniaeth a chadarnhaodd yn dilyn ei ddefnyddio unwaith i'r lefelau seleniwm barhau'n uwch na'r lefelau canllaw am tua 75 diwrnod wedi ei ddefnyddio.

Cynnydd yng nghynnwys seleniwm mewn gwair yn dilyn triniaeth gyda gwrtaith sy'n cynnwys Se Stock Booster Glenbervie

Cynnydd yng nghynnwys seleniwm mewn gwair yn dilyn triniaeth gyda gwrtaith sy'n cynnwys Se Stock Booster Glenbervie

Mae gwrteithiau sy'n cynnwys macrofaethynnau ar gyfer tyfiant planhigion a microfaethynnau ar gyfer gwell iechyd anifeiliaid ar gael a dylid eu hystyried wrth ddatblygu strategaethau i fynd i'r afael â'r materion sylfaenol hyn. Bydd hyn yn sicrhau bod y gwair yn parhau i fod y porthiant gwerth gorau sydd ar gael i'r da byw.

Cyngor cysylltiedig

Tyfu'r dyfodol | Hybu tyfiant y gwanwyn

Hybu tyfiant y gwanwyn gyda gwasgaru nitrogen ynghyd a sylffwr

Bydd defnyddio nitrogen cynnar fel nitrad yn rhoi'r dechrau gorau i'r borfa, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys sylffwr - mae'n gwella effeithlonrwydd nitrogen ac yn gwneud yn iawn am y diffygion yn eich pridd.
Sut i gynyddu cynnyrch glaswelltir

Sut i gynyddu cynnyrch glaswelltir

Prif elfennau cynnyrch gwair yw nifer y dail fesul arwynebedd uned a'r cynnwys o ran deunydd sych. Mae rhaglen wrteithio gytbwys sy'n cynnwys yr holl facrofaethynnau a microfaethynnau yn hanfodol mwyn cael y gwerth maethol a'r cynnyrch gorau posibl.
Sut i wella ansawdd glaswelltir

Sut i wella ansawdd glaswelltir

Y tair elfen ar gyfer ansawdd glaswelltir a thir pori yw ansawdd porfa, ansawdd maethol ac iechyd anifeiliaid. Dylanwadir yn gryf ar bob un o'r elfennau hyn gan raglen faeth gytbwys.
 Diffyg sylffwr glaswellt

Nodi a diagnosio diffygion maetholion glaswelltir

Nodi a diagnosio a yw'ch glaswelltir yn dioddef o ddiffygion maetholion a dysgu mwy am y symptomau a'r achosion a sut i reoli neu gywiro'r diffyg
Faint mae peidio â gwasgaru sylffwr yn ei gostio i chi?

Faint mae peidio â gwasgaru sylffwr yn ei gostio i chi?

Mae nifer o gwmnïau ffermio, am reswm da, wedi'u gwreiddio mewn traddodiad a phan ddaw hi i brynu gwrtaith mae ffermwr yn parhau i brynu'r hyn y maent wedi bod yn ei brynu erioed. Ond os yw peidio gwasgaru sylffwr ar borfa yn costio dros £100/hectar i chi...
Dylanwadu ar wair gwanwyn cynharach

Dylanwadu ar wair gwanwyn cynharach

Mae nifer o fanteision i gynyddu cyflenwad gwair gwanwyn cynnar fel y gall da byw ddechrau pori yn gynharach, nid y lleiaf arbed arian a fyddai fel arall yn cael ei wario ar brynu porthiant. Gall maeth chwarae rôl hollbwysig mewn dylanwadu ar dyfiant...
Agronomy Advice - Managing spring fertiliser and slurry applications

Rheoli defnydd gwrtaith gwanwyn a slyri ar gyfer pori

Yn dilyn blwyddyn arferol byddai'n rhesymol i ddisgwyl bod peth maethynnau yn dal ar gael ar gyfer gwair y gwanwyn, ond yn dilyn gaeaf arbennig o wlyb efallai na fydd hyn yn wir. Felly dyma ein cyngor ar gyfer rheoli defnydd gwrtaith gwanwyn a slyri.
Ten reasons to use YaraBela Nutri Booster

Deg rheswm dros ddefnyddio YaraBela Nutri Booster yr haf hwn

Yr her rhwng nawr a'r hydref yw sicrhau'r tyfiant porfa gorau posibl fel y gellir ymestyn y tymor pori a bydd digon o silwair o ansawdd da ar gyfer y gaeaf. Er mwyn cefnogi ein ffermwyr da byw yn yr her hon rydym ni yn Yara yn datblygu cynhyrchion fel...
Agronomy Advice - Gwneud i wrtaith eich porfa weithio'n galetach

Gwneud i wrtaith eich porfa weithio'n galetach

Mae gwrtaith wastad wedi bod yn fuddsoddiad da i ffermwyr da byw, boed eich bod yn tyfu porfa ar gyfer pori neu am leihau costau porthiant drwy well rheolaeth ar silwair.